Page last updated at 15:31 GMT, Tuesday, 8 January 2013

Datganiad gan y gweinidog addysg

Bydd corff newydd yn goruchwylio'r cymwysterau pobl ifanc yng Nghymru o fis Medi 2015.

Gwnaeth y Gweinidog Addysg Leighton Andrews y cyhoeddiad yn y siambr ar 8 Ionawr 2013.

Dywedodd ei fod yn disgwyl i'r achos busnes i sefydlu Cymwysterau Cymru fod yn barod yn hanner cyntaf 2013.

Roedd y gweinidog yn diweddaru aelodau yn y siambr ar ei gynllun i sefydlu'r corff newydd.

Mae'n dilyn adolygiad o'r cymwysterau a safodd disgyblion 14 i 19 oed yn 2012.

Dywedodd yr adolygiad y dylai Cymru gadw'r cymhwyster TGAU er gwaethaf diwygiadau yn Lloegr.

Roedd hefyd yn argymell rheoleiddio arholiadau hyd braich o lywodraeth Cymru.

Beirniadodd ei wrthwynebwyr Mr Andrews pan y defnyddiodd ei bwerau rheoleiddio i orchymyn ail-raddio papurau TGAU Saesneg haf 2012.

Bydd Cymwysterau Cymru yn cymryd y gwaith o reoleiddio oddi wrth y gweinidog yn 2015.

Bydd sefydlu'r corff hefyd codi cwestinau am ddyfodol bwrdd arholi'r CBAC.

Dywedodd Mr Andrews ei fod yn trafod ei gynlluniau gyda'r bwrdd ac arweinwyr cynghorau lleol.

Mae ei swyddogion yn edrych ar sut mae model tebyg o redeg y system arholiadau yn gweithredu yn yr Alban.

Mae Cymru yn aelod o system tair gwlad gyda Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Dywedodd Mr Andrews ei fod am barhau â'r drefn bresennol "lle bo'n briodol", ond bod cyhoeddiadau "unochrog" gan lywodraeth Prydain wedi ei "thanseilio".

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific