Page last updated at 18:14 GMT, Wednesday, 9 January 2013

Cwestiynau busnes

Mae cynlluniau ar gyfer parc gwyddoniaeth newydd ym Mangor yn symud yn gyflym yn ôl y gweinidog busnes ar 9 Ionawr 2012.

Wrth ymateb i gwestiwn gan AC y Democratiaid Rhyddfrydol Aled Roberts dywedodd Ms Hart ei bod wedi edrych ar safleoedd posib yn barod ac y byddai'r cynllun busnes yn dilyn.

Ond roedd yr AC Ceidwadol Mark Isherwood, er yn cefnogi buddsoddiad yng ngogledd Cymru, yn poeni nad oedd y Llywodraeth wedi derbyn amlinelliad o'r cynllun busnes.

Ychwanegodd na fyddai'r Llywodraeth fel rheol yn ymrwymo i fuddsoddiad hyd nes bod cynllun busnes wedi ei gyflwyno.

Dywedodd y Gweinidog y byddai'n parhau i ddiweddaru'r aelodau am y cynllun.

Pwysleisiodd i'r llywodraeth wneud cytundeb gwleidyddol ar y gyllideb "a dyna ddiwedd y mater ar y drafodaeth yma".

Ymysg y pynciau trafod eraill roedd y diwydiant twristiaeth, rhanbarthau dinesig ac ardaloedd menter.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific