Toriadau i fudd-daliadau oedd prif bryder ACau wrth holi'r gweinidog cyllid ar 9 Ionawr 2013.
Wrth ymateb i holi AC Llafur Vaughan Gething, dywedodd Jane Hutt bod llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad llawn o effeithiau'r toriadau ar bobl Cymru.
Pryder pennaf Mr Gething oedd yr "effeithiau gwael anghymesur" ar deuluoedd mawr yn ei etholaeth yn Ne Caerdydd a Phenarth, nifer o dras Somalaidd.
Roedd Ms Hutt yn rhannu ei bryder gan ddweud y byddai'n flwyddyn o doriadau "sylweddol" gyda 2/3 o'r rhai fyddai'n dioddef yn gweithio.
Ymatebodd hefyd i gwestiynau ar effeithiau'r toriadau ar blant mewn gofal a menywod.
Ymysg y pynciau trafod eraill oedd adroddiad cyntaf Comisiwn Silk, cyfle cyfartal i fenywod ifanc a'r £227m o gyllid cyfalaf ychwanegol a gyhoeddwyd yn Natganiad Hydref y Canghellor.
Bookmark with:
What are these?
E-mail this to a friend