Page last updated at 15:07 GMT, Tuesday, 8 January 2013

Datganiad busnes

Galwodd Rhodri Glyn Thomas AC am fwy o ymateb gan y llywodraeth ar ganlyniadau'r cyfrifiad am yr iaith Gymraeg ar 8 Ionawr 2013.

Bu'n holi Arweinydd y Tŷ Jane Hutt wedi iddi wneud datganiad ar raglen waith y llywodraeth at yr wythnosau sydd i ddod.

"Pryd ydych chi fel llywodraeth yn mynd i wneud datganiad a dechrau trafodaeth ynglyn â chanlyniad y cyfrifiad?" holodd Mr Thomas.

Croesawodd ddatganiad Carwyn Jones yn ystod cwestiynau'r prif weinidog ei fod eisoes wedi cyfarfod â chomisiynydd y Gymraeg i drafod y mater.

Dywedodd Mr Thomas bod ei blaid wedi trefnu dadl ar y mater ar 9 Ionawr 2012 ond ei fod yn gobeithio cael mwy o ymateb iddi gan y llywodraeth na gwelliannau'r gweinidog iaith.

Dywedodd Ms Hutt ei bod yn "bwysig" bod Plaid Cymru wedi rhoi'r mater "ar yr agenda" ac y byddai'r llywodraeth yn ymateb i'r ddadl.

Bu Ms Hutt hefyd yn ymateb i geisiadau am ddadleuon a datganiadau ar amryw o bynciau gan gynnwys cynlluniau datblygu lleol a llifogydd ym Mro Morgannwg.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific