Page last updated at 14:36 GMT, Tuesday, 8 January 2013

Cwestiynau i'r prif weinidog

Mae'r Prif Wenidog Carwyn Jones wedi bod yn amddiffyn record ei lywodraeth yn dilyn beirniadaeth gan y gwrthbleidiau ar yr economi, budd-daliadau a'r Gwasanaeth Iechyd.

Yn ystod sesiwn holi'r Prif Weindog ar 8 Ionawr 2012 dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies bod allforion wedi gostwng i'r gwledydd i Mr Jones ymweld â nhw i hybu masnach, a hynny o £200m.

Ond atebodd Mr Jones y byddai'n ymweld â UDA, India, Siapan, Twrci ac Iwerddon eleni, a bod ei ymweliad ag India y llynedd wedi arwain at gwmni gwaith dur Tata yn buddsoddi £800m yng Nghymru.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood bod y prif weinidog wedi methu â lleddfu effaith y toriadau ar wariant cyhoeddus.

Dywedodd mai "un cyfle yn unig" sydd gan Mr Jones i wireddu ei "addewid i warchod pobol Cymru rhag y toriadau".

Yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams dyw'r llywodraeth ddim wedi darparu gwasanaethau deintyddol mewn ardaloedd helaeth o'r wlad.

Gwadodd Mr Jones y cyhuddiad.

Yn ogystal ag ymateb i gwestiynau arweinwyr y pleidiau, atebodd y Prif Weinidog gwestiynau hefyd ar Faes Awyr Caerdydd, llifogydd yng ngogledd Cymru a dyfodol yr iaith Gymraeg.

Ymatebodd hefyd i gwestiwn ar yr anghydfod presennol rhwng y BBC ac Eos am ddarlledu caneuon Cymraeg.

Wedi cwestiynau'r prif weinidog holodd Byron Davies AC gwestiwn brys i'r gweinidog busnes ar Faes Awyr Caerdydd.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific