Page last updated at 16:00 GMT, Wednesday, 5 December 2012

Cwestiwn brys ar y byrddau iechyd

Fe wadodd y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths bod rhoi £82m o gyllid ychwanegol i'r byrddau iechyd yn gyfystyr â 'thaliad brys'.

Roedd hi'n ymateb i gwestiwn brys oedd wedi ei gyflwyno gan lefarydd iechyd y Ceidwadwyr Darren Millar ar 5 Rhagfyr 2012.

Fe gytunodd y llywydd i'r cwestiwn gael ei ofyn wedi i'r gweinidog iechyd gadarnhau yn gynharach yn y dydd y byddai £82m ychwanegol yn cael eu rhoi i fyrddau iechyd iddynt fedru dygymod â "phwysau eithriadol".

Fe ymosododd Mr Millar ar record Ms Griffiths, gan ddweud byd y ffordd y mae hi'n rheoli'r gwasanaeth iechyd yn "draed moch llwyr".

Dywedodd bod "toriadau'r" llywodraeth yn "niweidio'r GIG".

Amddiffynodd y gweinidog ei record gan ddweud iddi fod yn "ddarbodus iawn" wrth drefnu sefydlu cronfa argyfwng.

Wrth ymateb i Mr Millar, dywedodd: "Gallwch chi ddim ymosod arnaf i am beidio rhoi digon o arian i'r byrddau iechyd, ac yna ymosod arnaf i am roi mwy o arian iddyn nhw."

Holodd llefarydd iechyd Plaid Cymru Elin Jones, pryd nad oedd taliad brys yn daliad brys.

"Ai pan mae hi'n ddiwedd y flwyddyn?

Atebodd Ms Griffiths: "Mae taliadau brys ar gyfer sefydliad sy'n methu.

"Nid yw'r gwasanaeth iechyd yn sefydliad sy'n methu."

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific