Page last updated at 18:42 GMT, Wednesday, 5 December 2012

Dadl y Ceidwadwyr

Mae uned gyflawni'r prif weinidog yn "gyfangwbl aneffeithiol" yn ôl yr AC Ceidwadol Angela Burns AC.

"Os ydych chi'n cael trafferth i gael trefn ar yr uned, pa obaith sydd yna i'r llywodraeth?" holodd wrth arwain dadl ei phlaid ar 5 Rhagfyr 2012.

Bu'r AC De Penfro a Gorllewin Caerdydd yn dadlau fod y llywodraeth wedi "methu â gwella bywydau pobl Cymru".

Wrth siarad ar ran Plaid Cymru galwodd Rhodri Glyn Thomas AC ar y prif weinidog i gyhoeddi adroddiad blynyddol yn amlinellu cynnydd yr uned gyflawni o ran gwella gwasanaethau cyhoeddus.

Beirniadodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams y llywodraeth ym maes iechyd, addysg a'r economi.

Nododd fod amseroedd aros am driniaeth yn hirrach ers i'r uned gael ei sefydlu, llai o fyfyrwyr yn ennill 5A*-C TGAU yng Nghymru o gymharu â Lloegr a bod diweithdra tymor hir ymysg pobl ifanc wedi codi 400%.

Bu'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn amlinellu rhai o lwyddiannau ei lywodraeth wrth geisio amddiffyn ei record.

Nododd y lleihad yn y nifer o bobl yn marw o ganlyniad i strôc a chancr, y cynllun Twf Swyddi Cymru sydd wedi creu 4,000 o swyddi a dywedodd bod cynllun cenedlaethol newydd i fynd i'r afael â thai gwag wedi ei lansio.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific