Page last updated at 17:04 GMT, Wednesday, 5 December 2012

Dadl ar adroddiad y pwyllgor iechyd

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Mark Drakeford fod thrombo-emboledd gwythiennol (VTE) yn gyflwr cyffredin sy'n medru achosi marwolaeth.

Roedd yn siarad yn ystod dadl ar adroddiad y pwyllgor ar VTE.

Mae VTE yn digwydd pan mae clot gwaed yn ffurfio mewn gwythïen ac yn symud o'i leoliad gwreiddiol gan greu rhwystr mewn pibell waed.

Fe wnaeth ymchwiliad undydd y pwyllgor ganolbwyntio ar ba gamau y gellid eu cymryd er mwyn atal cleifion rhag datblygu VTE mewn ysbytai.

Mae pob un o bum argymhelliad y pwyllgor wedi cael eu derbyn yn llawn neu mewn egwyddor gan y gweinidog iechyd.

Un o'r rhain ydy y dylai'r llywodraeth ystyried gofyn i'r byrddau iechyd gydymffurfio efo canllawiau NICE fel blaenoriaeth.

Ysgrifennodd y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths ei bod yn derbyn yr argymhelliad mewn egwyddor, gan ddweud bod y llywodraeth eisoes wedi gwneud ymrwymiad tebyg yn ei chynllun sicrhau ansawdd ar gyfer y gwasanaeth iechyd.

Fe wnaeth Cadeirydd y Pwyllgor Mark Drakeford a llefarydd iechyd Plaid Cymru Elin Jones fynegi eu siom bod y gweinidog iechyd heb dderbyn eu holl argymhellion yn llawn.

Dywedodd Mr Drakeford nad oedd y mesurau yn ddadleuol.

"Roeddem wedi gobeithio y byddech chi'n mynd yn bellach na'u derbyn mewn egwyddor."

Wrth ymateb ar ran y llywodraeth, dywedodd Ms Griffiths ei bod hi wedi cael ei darbwyllo gan y dadleuon ac y byddai hi yn cymryd camau i geisio sicrhau cydymffurfiaeth â chanllawiau NICE.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific