Page last updated at 19:21 GMT, Wednesday, 5 December 2012

Dadl Plaid Cymru ar ddiweithdra

Fe ddywedodd Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood bod y trafodaethau rhwng ei phlaid a'r llywodraeth ar sut i wario £40m ar brentisiaethau yn parhau.

Roedd hi'n siarad yn ystod dadl Plaid Cymru ar 5 Rhagfyr 2012.

Dywedodd Ms Wood ei bod hi'n gobeithio y byddai'r cytundeb yn arwain at greu 10,000 o brentisiaethau ychwanegol i bobl ifanc.

Roedd yn rhaid i'r llywodraeth ddod i ddealltwriaeth gydag un o'r gwrthbleidiau er mwyn pasio'r gyllideb flynyddol ar 4 Rhagfyr 2012.

Fe gytunodd Plaid Cymru y byddai ei haelodau yn atal eu pleidlais yn gyfnewid am fwy o arian tuag at brentisiaethau.

Fe fydd y £40m yn cael ei wario dros gyfnod o ddwy flynedd.

Hefyd yn rhan o'r cytundeb oedd cynlluniau i adeiladu parc gwyddoniaeth newydd fydd yn gysylltiedig â phrifysgolion Bangor ac Aberystwyth.

Dywedodd Simon Thomas AC ei bod hi'n bwysig taclo'r anghysondeb ynglŷn â phwy sy'n cymryd rhan mewn cynlluniau prentisiaethau.

Wrth ymateb i'r ddadl dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau Jeff Cuthbert bod rhaglen Twf Swyddi Cymru y llywodraeth yn rhoi cymorth i bobl ifanc gael gwaith.


Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific