Page last updated at 14:55 GMT, Wednesday, 5 December 2012

Cwestiynau addysg a sgiliau

Fe wnaeth ACau drafod y grant amddifadedd disgyblion yn ystod sesiwn cwestiynau addysg ar 5 Rhagfyr 2012.

Fe ofynnodd Peter Black AC os oedd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews yn hapus bod mwy o arian yn cael ei roi i'r grant cyfatebol sy'n weithredol yn Lloegr, tra doedd yr un Cymreig ddim yn derbyn arian ychwanegol.

Dywedodd Mr Andrews bod y ffigyrau yn Lloegr yn gamarweiniol gan fod y grant premiwm disgyblion yn cael ei ddefnyddio yn lle'r gyllideb a oedd yn cael ei dorri mewn mannau eraill o fewn addysg.

Gofynnodd Arweinydd y Gwrthblaid Andrew RT Davies os byddai'r gweinidog addysg yn cadw meddwl agored ynglŷn â dyfodol Prifysgol Fetropolitaidd Caerdydd.

Fe wnaeth Leighton Andrews AC ddiddymu ei ymgynghoriad ar ddyfodol y brifysgol wedi i eiriau llym gael eu cyfnewid rhwng ei adran a'r brifysgol, a oedd eisiau parhau fel sefydliad annibynnol.

Atebodd y gweinidog addysg mai mater i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru oedd ariannu sefydliadau addysg uwch.

Fe wnaeth y Dirprwy Weinidog Sgiliau Jeff Cuthbert hefyd ateb cwestiynau ar brentisiaethau.

Yn ystod y ddadl, fe wnaeth llawer o ACau longyfarch Leighton Andrews ar ennill gwobr gwleidydd y flwyddyn ITV.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific