Page last updated at 13:53 GMT, Wednesday, 5 December 2012

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Gwadodd y gweinidog iechyd bod £82m ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn "arian argyfwng" i'r byrddau iechyd wrth iddynt wynebu diffyg o ddegau o filiynau o bunnoedd bob blwyddyn.

Dywedodd Lesley Griffiths AC ar 5 Rhagfyr 2012 fod yr ymateb o ganlyniad i bwysau "na welwyd ei debyg o'r blaen" ar y gwasanaeth iechyd eleni, yn enwedig ar y gwasanaethau brys.

Bu gwleidyddion o'r gwrthbleidiau yn dadlau fod y gweinidog wedi rhybuddio droeon bod rhaid i'r byrddau iechyd fyw o fewn eu cyfyngiadau ariannol ac felly bod yr arian ychwanegol yn amlwg yn arian argyfwng.

Heriodd cadeirydd y pwyllgor Darren Millar y gweinidog.

"Weinidog, maddeuwch i mi, ond ar ddechrau'r flwyddyn fe wnaethoch chi'n ddigon clir na fyddai unrhyw arian ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd a'ch bod chi'n disgwyl iddyn nhw fantoli eu cyllideb heb unrhyw gefnogaeth ychwanegol.

"Fe wnaethoch ddatganiad i'r perwyl yna yn y siambr.

"Ag eto, rydym yn agosáu at ddiwedd y flwyddyn gydag argyfwng ariannol anferthol gan fod eich llywodraeth chi wedi gwneud toriadau na welwyd mo'u tebyg o'r blaen i'r gwasanaeth iechyd.

"Nawr mae'n rhaid i chi roi £82m o arian argyfwng i'r byrddau iechyd."

Amddiffynodd y gweinidog ei hun.

"Fe wnes i roi mwy o arian iddyn nhw allan o fy nghyllideb fy hun," meddai.

"Rydw i wedi bod yn onest ac yn agored am hyn.

"Arian fy nghyllideb i yw hwn a dydw i ddim yn siŵr sut y gallwch chi ei alw'n arian argyfwng."

Pwysleisiodd AC Plaid Cymru Elin Jones nad oedd hi am drafod hyd syrffed union ystyr "arian argyfwng" ond "mae'n sicr yn teimlo fel hanes yn ailadrodd".

Darllenwch hwn yn Saesneg.

Aelodau'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific