Page last updated at 18:06 GMT, Tuesday, 4 December 2012

Datganiad ar y Bil Archwilio Cyhoeddus

Fe wnaeth y Gweinidog Cyllid Jane Hutt ddatganiad yn cyflwyno'r Mesur Archwilio Cyhoeddus ar 4 Rhagfyr 2012.

Dywedodd fod y mesur wedi cael ei lunio er mwyn diwygio a moderneiddio Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) a swydd archwilydd cyffredinol Cymru, oherwydd bod problemau wedi codi yn y gorffennol.

Mae'r mesur yn sefydlu bwrdd ar gyfer SAC fydd yn cynnwys aelodau anweithredol a fydd yn cael eu penodi gan y swyddfa archwilio.

Wrth annerch pwyllgorau'r cynulliad, fe wnaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru Huw Vaughan Thomas feirniadu'r mesur drafft oherwydd ei fod o'r farn y gallai gyfyngu ar swydd yr archwilydd cyffredinol.

Fe awgrymodd y dylai'r pŵer fod gan yr archwilydd cyffredinol i barhau i gyflogi ei staff a sicrhau ei wasanaethau proffesiynol ei hun.

Mae'r mesur hefyd yn cynnwys darpariaethau a fydd yn golygu mai'r archwilydd cyffredinol fydd yr archwilydd statudol ar gyfer cyrff llywodraeth leol yng Nghymru.

Fe wnaeth cadeiryddion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (Darren Millar AC a David Melding AC) ill dau fynegi eu bod yn cefnogi'r mesur, ac fe'i pasiwyd yn unfrydol.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific