Page last updated at 18:13 GMT, Tuesday, 4 December 2012

Dadl ar y gyllideb flynyddol

Cafodd cyllideb 2013-14 ei chymeradwyo ar 4 Rhagfyr 2012.

Roedd Llafur eisoes wedi dod i gytundeb â Plaid Cymru y byddai ei haelodau'n atal ei pleidlais yn gyfnewid am wariant o £20m ar brentisiaethau yn ogystal â chynlluniau i adeiladu parc gwyddoniaeth newydd yn gysylltiedig â phrifysgolion Bangor ac Aberystwyth.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Jane Hut bod hon yn "gyllideb i fusnesau, teuluoedd ac economi Cymru" wrth amlinellu cynlluniau'r llywodraeth i rannu ychydig llai na £15bn rhwng yr adrannau gwahanol.

Yn ôl y Pwyllgor Cyllid, mae'r gyllideb 0.5% yn llai na'r flwyddyn ariannol bresennol (2012-2013), sy'n gyfystyr â 3% yn llai mewn termau real (wedi i chwyddiant gael ei ychwanegu).

Dywedodd AC y Democratiaid Rhyddfrydol Peter Black y byddai ei blaid wedi cefnogi cyllideb y llywodraeth petai'n cynnwys dyblu'r Grant Amddifadedd Disgyblion i £900 y disgybl.

Fe gefnogodd y blaid gyllideb 2012-2013 am ei fod yn cyflwyno'r grant.

Gwahoddodd Mrs Hutt y Democratiaid Rhyddfrydol i gefnogi'r gyllideb am eu bod wedi cynyddu'r grant o £4.4m.

Dywedodd AC y Ceidwadwyr Paul Davies bod y gyllideb i bob pwrpas yn "doriadau i'r gwasanaeth iechyd".

Mae'r Pwyllgor Cyllid hefyd wedi mynegi pryderon ynglŷn â pha mor fforddiadwy yw cynlluniau gwario'r llywodraeth, yn benodol o ran y gwasanaeth iechyd.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific