Page last updated at 15:24 GMT, Tuesday, 4 December 2012

Datganiad busnes

Dywedodd AC Plaid Cymru Rhodri Glyn Thomas na fydd y blaid yn pleidleisio i basio'r rheoliadau sy'n ymwneud â budd-dal treth awdurdodau lleol heb "gymal machlud haul".

Roedd Mr Thomas yn holi Arweinydd y Tŷ Jane Hutt ar 4 Rhagfyr 2012 wedi iddi wneud datganiad busnes yn nodi bod y llywodraeth am atal y rheolau sefydlog i'r rheoliadau gael eu trafod ar 5 Rhagfyr 2012.

Dywedodd bod y llywodraeth wedi gadael y mater tan y "funud olaf" am ei bod "am gael dadl â San Steffan, ac yn anwybddu anghenion pobl fregus a thlawd yng Nghymru".

Yn ôl y gweinidog, mae'r pwyllgor busnes wedi bod yn trafod y rheoliadau.

Dywedodd mai'r llywodraeth yn San Steffan sydd ar fai am yr oedi am wrthod â chyhoeddi'r manylion sydd eu hangen ar lywodraeth Cymru.

"Rydym ni yn yr un safle a'r Alban a Gogledd Iwerddon," meddai.

"Fe gaiff y mater ei drafod yn drylwyr yfory."

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific