Page last updated at 15:49 GMT, Tuesday, 4 December 2012

Cwestiynau i'r prif weinidog

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones wrth ACau ei fod "wedi tristau" gan fethiant prif weinidog y DU i dderbyn argymhellion adroddiad Leveson.

"Mae'n ddychrynllyd nad yw'r rheini sydd a'u bywydau wedi'u dinistrio gan ymyrraeth y wasg yn cael eu digolledi mewn unrhyw ffordd," dywedodd wrth ateb cwestiynau yn y siambr ar 4 Rhagfyr 2012.

Cytunodd Mr Jones gydag arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol y dylai'r argymhellion gael eu gwireddu wrth iddo feirniadu methiant y Ceidwadwyr i gefnogi'r syniad o sefydlu corff rheoli annibynnol i'r wasg gyda deddfwriaeth.

Galwodd Arweinydd y Ceidwadwyr am drafodaeth agored yng Nghymru ar reoli'r wasg a'i ddiwygio wrth iddo herio'r prif weinidog ar ei "ymgais i ffrwyno'r wasg".

Fe gysylltodd llywodraeth Cymru â BBC Cymru ac S4C gan alw aryn nhw i beidio ag ail-ddarlledu pennod 29 Tachwedd 2012 o Pobol y Cwm gan ei fod yn trafod difa moch daear a phenderfyniad y llywodraeth i beidio parhau â'r cynllun i ddifa moch daear yng Nghymru.

Cyfeiriodd AC Plaid Cymru Simon Thomas at y digwyddiad wrth drafod band-eang wrth iddo holi a oedd y prif weinidog wedi gwylio'r rhaglen yn llawn ar wasanaeth clic.

Fe wnaeth Mr Jones amddiffyn ei benderfyniad i ganiatáu'r llythyr a ddrafftiwyd gan ei swyddogion i'r wasg wrth iddo ddadlau nad oes unrhyw opera sebon arall wedi beirniadu penderfyniad llywodraeth yn uniongyrchol.

Esboniodd ei fod yn disgwyl ymateb gan y BBC, S4C ac Ofcom ynghylch y darllediad.

Manteisiodd Leanne Wood ar y cyfle i holi Mr Jones am safbwynt y llywodraeth ar yr opsiynau gwahanol i fyrddau iechyd.

Chwifiodd lythyr sydd wedi ei lofnodi gan y gweinidog addysg a'i gyd-AS Chris Bryant sy'n mynychu pryder ynghylch y cynlluniau adrefnu wrth iddi holi a odd hi'n wir o hyd na allai gweinidogion wneud sylw ar hynny.

Yn ôl Mr Jones mae'n dderbyniol i weinidogion wneud sylwadau yn rhinwedd eu swydd fel ACau petai yn fater o ofid lleol iddynt.

Fe wnaeth e hefyd ateb cwestiynau ar y gwasanaeth iechyd, diweithdra ymysg yr ifanc ac adroddiad y Comisiwn Silk.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific