Page last updated at 18:14 GMT, Wednesday, 28 November 2012

Dadl fer: Rheilffyrdd

Bu'r AC Llafur Vaughan Gething yn dadlau y dylai cwmni cydweithredol fod yn berchen ar reilffyrdd yn hytrach na chwmni masnachol ar 28 Tachwedd 2012.

Nid yw'r drefn bresennol yn "fodel addas ar gyfer rhoi gwerth am arian i deithwyr" dywedodd yr AC De Cymru a Phenarth.

"Dyw e ddim yn cymryd i ystyriaeth gwerth am arian na chysondeb i deithwyr," ychwanegodd.

Pwysleisiodd y byddai elw yn cael ei fuddsoddi yn y cwmni o dan drefn gydweithredol yn hytrach na llenwi pocedi'r cyfranddalwyr fel sy'n digwydd ar hyn o bryd.

Er bod llywodraeth y DU yn gyfrifol am nifer o'r penderfyniadau ynghylch rheilffyrdd, pwysleisiodd y Gweinidog Trafnidiaeth Carl Sargeant y byddai'n defnyddio hynny o bwerau sydd ganddo i sicrhau dyfodol rheilffyrdd Cymru.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific