Page last updated at 18:12 GMT, Wednesday, 28 November 2012

Dadl y Ceidwadwyr

Cyfaddefodd y dirprwy weinidog gwasanaethau cymdeithasol bod y nifer o bobl anabl sy'n defnyddio taliadau uniongyrchol i drefnu eu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn "isel" mewn cymhariaeth â gwledydd eraill y DU.

Roedd Gwenda Thomas AC yn siarad yn nadl y Ceidwadwyr ar 28 Tachwedd 2012.

Wrth arwain y ddadl, dywedodd Mark Isherwood AC mai ond 2% o'r rhai sy'n gymwys i gael y taliadau uniongyrchol sy'n eu cael nhw.

"Nid yw taliadau uniongyrchol yn gweddu i bob person anabl, rhaid i gyllid canolog i ofal cymdeithasol barhau hefyd," meddai, gan dderbyn gwelliannau Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol i gynnig ei blaid.

"Rhaid i ni wneud yn siwr bod gan bobl anabl amrywiaeth o ddewisiadau i'w galluogi nhw i fyw yn annibynnol," meddai arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood.

Dadleuodd AC y Ceidwacwyr Darren Millar bod diffyg cefnogaeth a gwybodaeth am y gwasanaethau oedd ar gael i ddefnyddwyr.

Dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams AC bod mwy o gefnogaeth yn hollbwysig.

"Mae'n grŵp ni wedi dadlau o blaid mwy o gefnogaeth i ddefnyddio taliadau uniongyrchol ers cryn amser," meddai.

"Maen nhw'n cynnig mwy o annibynniaeth, mwy o ddewis a mwy o reolaeth i ddefnyddwyr... hyd yn oed os yw pobl yn gwybod am y taliad, does ganddyn nhw ddim gwyboaeth am sut maen nhw'n gweithio ac felly'n dewis peidio trio."

Dywedodd y gweinidog y byddai'r mesur gwasanaethau cymdeithasol yn ymateb i'r mwyafrif o bryderon yr aelodau.

"Mae'n wir bod y nifer sy'n defnyddio'r taliadau'n isel," meddai.

"Yn amlwg, mae mwy y gallem ni ei wneud i dynnu sylw a chodi ymwybyddiaeth o beth all y taliadau yma eu gwneud.

"Nod y taliadau uniongyrchol yw i gynyddu annibyniaeth y defnydiwr a rhoi dewis sy'n brif egwyddor i'r mesur gwasanaethau cymdeithasol."

Cafodd y cynnig wedi ei ddiwygio ei gymeradwyo.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific