Page last updated at 17:27 GMT, Wednesday, 5 December 2012

Dadl i gyflwyno bil ynghylch asbestos

Galwodd yr AC Llafur Mick Antoniw am gyflwyno cyfraith newydd a fyddai'n gweld busnesau a chwmnïau yswiriant yn talu am gostau meddygol dioddefwyr asbestos.

Fe wnaeth yr AC Llafur, sy'n gyn-gyfreithiwr i gleifion sy'n dioddef o glefydau sy'n gysylltiedig ag asbestos, gyflwyno'r mesur yn y siambr ar 5 Rhagfyr 2012.

"Byddai'r mesur yn caniatáu i lywodraeth Cymru adennill costau meddygol mewn achosion lle mae atebolrwydd cyfreithiol am y salwch wedi cael ei sefydlu.

"Y bwriad yw i'r arian sy'n cael ei adennill gael ei ddefnyddio i gynnig cymorth ychwanegol i ddioddefwyr a'u teuluoedd," dywedodd wrth y siambr.

Cafodd y defnydd o asbestos ei wahardd yn y DU yn 1999 wedi iddi ddod i'r amlwg ei fod yn beryg difrifol i iechyd.

Fe wnaeth AC y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams longyfarch Mr Antoniw am ddod â'r mesur ger bron y llywodraeth wrth iddi ddweud ei bod hi'n edrych ymlaen at ei drafod yn y pwyllgor iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Holodd Elin Jones, AC Ceredigion, a ddylai'r arian gael ei ddychwelyd i goffrau llywodraeth Cymru wrth iddi ddadlau y dylai fynd at y byrddau iechyd yn lle.

Lleisiodd AC Sir Fynwy Nick Ramsay bryder y gallai costau yswiriant godi petai'n rhaid i'r cwmnïoedd dalu mwy o arian am y ceisiadau ac y gallai'r ddeddfwriaeth "agor y llif ddorau ar gyfer ceisiadau gwaith eraill".

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific