Page last updated at 14:31 GMT, Wednesday, 28 November 2012

Cwestiynau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

Dywedodd y gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol bod cynyddu'r nifer o driniaethau IVF sydd ar gael trwy'r gwasanaeth iechyd i dair "dan ystyriaeth yn rheolaidd".

Roedd Lesley Griffiths AC yn ateb cwestiynau sy'n ymwneud â'i hadran ar 28 Tachwedd 2012.

"Mae pob cwpwl cymwys eisoes yn gallu cael y driniaeth ddwy waith, sy'n sefyllfa dda iawn" meddai.

Eglurodd bod y sefyllfa'n amrywio o ranbarth i ranbarth yn Lloegr.

"Fe fyddem ni'n hoffi cynnig tair triniaeth o IVF yng Nghymru ond bydd rhaid i ni weithio gyda'r gwasanaeth iechyd a Whisc i ystyried y blaenoriaethau o ran sut y dylai'r cyllid gael ei wario."

Mynegodd AC y Ceidwadwyr Angela Burns bryderon am y rhai hynny sydd heb wyau eu hunain ac felly'n methu â chael triniaeth IVF oherwydd diffyg wyau wedi eu rhoi.

Dywedodd y gweinidog y byddai'n edrych ar y sefyllfa ac yn ysgrifennu at Ms Burns.

Fe wnaeth Ms Griffiths hefyd ateb cwestiynau ar roi gwaed, cyngor i adrannau damweiniau ac achosion brys ar drin cleifion â dementia, a gwasanaethau i rieni â babanod wedi eu geni'n gynnar.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific