Page last updated at 16:58 GMT, Tuesday, 27 November 2012

Dadl ar ddatblygu cynaliadwy

Amlinellodd y Gweinidog Amgylchedd John Griffiths ei fwriad i gyhoeddi papur gwyn sy'n amlinellu ei gynigion ar gyfer bil datblygu cynaliadwy newydd ar 27 Tachwedd 2012.

Bydd y bil newydd yn gosod dyletswydd ar y llywodraeth a sefydliadau cyhoeddus eraill i gryfhau'r fframwaith ar gyfer datblygu cynaliadwy.

Fe wnaeth ei sylwadau wrth arwain y ddadl ar yr adroddiad blynyddol ar ddatblygu cynaliadwy.

Mae'r adroddiad blynyddol yn edrych ar y cyfnod rhwng Ebrill 2011 a Mawrth 2012 a'i nod yw ystyried effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol penderfyniadau llywodraeth Cymru.

Yn ôl yr adroddiad mae'r ffigyrau diweddaraf, a gafodd eu rhyddhau mis Awst, yn dangos bod Cymru wedi cynyddu ei hallbwn economic, faint o egni adnewyddol sy'n cael ei gynhyrchu a faint o wastraff a chompost sy'n cael ei ailgylchu.

"I Gymru, mae'r darlun yn bositif," dywedodd y gweinidog wrth y siambr.

Er ei fod yn hapus gyda nifer o'r cyfeirwyr yn yr adroddiad pwysleisiodd fod angen "syniad clir o ddatblygiad".

Galwodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol William Powell AC ar y gweinidog i ddefnyddio astudiaethau achos o dramor "i sicrhau nad yw Cymru yn syrthio tu ôl i wledydd Ewropeaidd eraill, ac yn wir y byd".

Galwodd yr AC Ceidwadol Russell George ar y llywodraeth i weithredu ar y mannau gwan sy'n cael eu nodi yn yr adroddiad.

Cafodd y cynnig wedi ei ddiwygio ei gymeradwyo.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific