Page last updated at 17:45 GMT, Tuesday, 27 November 2012

Dadl ar Adroddiad y Comisiwn Silk

Galwodd aelodau'r cynulliad ar lywodraeth y DU i fwrw ati i weithredu argymhellion Comisiwn Silk ar 27 Tachwedd 2012.

Manteisiodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ar y cyfle i alw unwaith eto ar wleidyddion San Steffan i gyflwyno papur gwyn i weithredu argymhellion y comisiwn cyn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Cafodd y comisiwn ei sefydlu gan lywodraeth y Deyrnas Unedig i adolygu trefniadau ariannol a chyfansoddiadol Cymru.

Cafodd rhan un o ganfyddiadau'r comisiwn eu cyhoeddi ar 19 Tachwedd 2012, gan argymell rhoi pwerau i amrywio trethi i'r cynulliad erbyn 2020.

Daeth croeso mawr i adroddiad y comisiwn gan arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams ac o du arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies hefyd.

"Mae'r adroddiad hwn yn cydnabod gwendid y drefn bresennol ac yn anelu at rymuso'r cynulliad cenedlaethol a phobl Cymru," meddai Ms Wood.

Dywedodd Ms Williams ei bod "yn falch bod consensws barn nawr y dylai'r lle hwn gael pwerau benthyg".

Dywedodd Mr Davies bod ei blaid "yn llwyr gefnogi canfydiadau Comisiwn Silk" ond ei fod e'n bersonol yn teimlo bod "cyfle wedi ei golli i edrych yn fanylach ar dreth enillion cyfalaf".

Roedd cynnig y llywodraeth yn croesawu cyhoeddi'r adroddiad ac yn edrych ymlaen at ei roi ar waith.

Cafodd y cynnig ei gymeradwyo.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific