Page last updated at 16:08 GMT, Tuesday, 27 November 2012

Datganiad busnes

Fe wnaeth Arweinydd y Tŷ Jane Hutt ddymuno'n dda i Archesgob Cymru yn ei ymdrechion i sicrhau "fod gyda ni esgobion benywaidd yng Nghymru" ar 27 Tachwedd 2012.

Mynegodd ei dyhead yn dilyn penderfyniad yr Eglwys yn Lloegr i beidio ag ordeinio esgobion benywaidd.

Galwodd AC Plaid Cymru Jocelyn Davies ar y gweinidog i sicrhau nad yw grantiau llywodraeth Cymru yn mynd i sefydliadau tebyg sy'n ystyried menywod yn eilradd.

Fe roddodd Ms Hutt ei chadarnhad fod y llythyr ar gyfer gwobrwyo grantiau yn nodi fod yn rhaid i dderbynwyr grantiau weithredu polisi o gyfleodd cyfartal.

Galwodd AC Gogledd Cymru Antoinette Sandbach ar y gweinidog amgylchedd a chynaliadwyedd i hyrwyddo ffyrdd o baratoi ar gyfer llifogydd.

Awgrymodd yr AC Ceidwadol fod y gweinidog yn defnyddio cyngor asiantaeth yr amgylchedd yn ei ddatganiad ac y gallai gynnig "pum cam syml" i'w dilyn pan fo rhybudd llifogydd.

Mynegodd Ms Hutt ei diolch i'r aelod am ei hawgrymiad gan ei ddisgrifio fel "gwybodaeth ddefnyddiol" a fyddai'n gefndir da i'r gweinidog".

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific