Page last updated at 14:34 GMT, Tuesday, 27 November 2012

Cwestiynau i'r prif weinidog

Fe wnaeth y Prif Weinidog Carwyn Jones bwysleisio dro ar ôl tro ei fod disgwyl i'r byrddau iechyd lleol "ddod mewn ar darged".

Dywedodd hefyd fod y byddai ei blaid mewn llywodraeth "yn sicrhau fod y gwasanaeth iechyd wedi ei ariannu'n iawn" ar 27 Tachwedd 2012.

Bu arweinwyr y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn herio'r prif weinidog at y mater yn dilyn sylwadau gan brif weithredwr y gwasanaeth iechyd yn y pwyllgor cyfrifon cyhoeddus y bore hwnnw.

Dywedodd David Sissling wrth aelodau'r pwyllgor ei fod yn cytuno gyda'r asesiad y gallai'r gwasanaeth orwario hyd at £70m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.

Esboniodd hefyd fod £50m wedi ei gadw wrth gefn i fantoli cyllidebau'r byrddau iechyd os oes angen eleni.

Fe wnaeth Carwyn Jones AC barhau i wadu fod y byrddau iechyd mewn trafferthion ariannol wrth iddo ddadlau fod adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn nodi fod y gwasanaeth iechyd mewn gwell safle nag oedd y llynedd.

Heriodd Kirsty Williams AC iddo ddweud pa wasanaethau fyddai'n cau pe na bai'r llywodraeth yn cynnig cymorth ariannol iddynt.

Mae materion y gwasanaeth iechyd yng Nghymru o wir gonsyrn rhybuddiodd Andrew RT Davies wrth iddo feirniadu'r "diffyg sylwedd o feinciau'r llywodraeth".

Cododd Arweinydd Plaid Cymru Leanne y mater o ddisodli'r cyngor materion cymdeithasol wrth iddi holi sut gallai cynllun a ddisgrifiwyd fel "prosiect blaenllaw" gael ei waredu.

"Nid oes penderfyniad terfynol ar hyn o bryd," dywedodd y prif weinidog.

Fe wnaeth Mr Jones hefyd ateb cwestiynau ar drais yn y cartref, cyn-filwyr o Gymru a oedd yn rhan o'r confois i Rwsia yn yr Ail Ryfel Byd a chynlluniau'r llywodraeth i nodi 350 mlynedd ers cyhoeddi llyfr gweddïau 1662.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific