Page last updated at 18:30 GMT, Wednesday, 21 November 2012

Dadl y Democratiaid Rhyddfrydol ar greu cd gweinidogol

Cafodd cynnig i sefydlu system sy'n golygu bod modd plismona'r côd gweinidogol yn annibynnol o'r llywodraeth a'r cynulliad ei wrthod yn y siambr ar 21 Tachwedd 2012.

Arweiniad i weinidogion ar sut i ymddwyn a chadw safonau yw'r côd.

Fe gyflwynodd y Democratiaid Rhyddfrydol y cynnig yn ystod eu dadl ond fe wnaethant bwysleisio sawl tro nad oedd unrhyw broblem gyda'r gweinidogion presennol.

Galwodd arweinydd y blaid Kirsty Williams AC ar y llywodraeth i ddilyn esiampl yr Alban a Gogledd Iwerddon sydd wedi penodi cynghorydd annibynnol ar y côd gweinidogol.

Wrth siarad ar ran y Ceidwadwyr, lleisiodd Andrew RT Davies AC ei gefnogaeth i'r cynnig gan alw am amserlen glir ar gyfer ymgynghori a chyflwyno'r syniad.

Rhybuddiodd Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood AC fod tryloywder wedi "mynd yn gymylog" wrth iddi ddadlau na allai'r gweinidogion ymchwilio i'w materion eu hunain.

Gwrthododd y Prif Weinidog Carwyn Jones y cynnig a'r gwelliant wrth iddo ddadlau fod yna "ddigon o systemau yn eu lle yn barod i wirio'r gwaith".

Pwysleisiodd hefyd nad oes unrhyw awgrym fod y system bresennol wedi methu.

"Dwi ddim yn gweld sut mae'r system yn Llundain yn well na fan hyn," dywedodd Mr Jones wrth iddo esbonio fod y cynghorydd annibynnol yn San Steffan ond yn ymchwilio i achosion sydd wedi cael eu cyfeirio gan y prif weinidog.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific