Page last updated at 12:48 GMT, Tuesday, 20 November 2012

Dadl fer: Cynlluniau Datblygu Lleol

Dywedodd y gweinidog datblygu cynaliadwy mai cynlluniau datblygu lleol yw sylfaen cynllunio lleol ar 8 Ionawr 2013.

Roedd yn ymateb i ddadl fer AC Canol De Cymru Andrew RT Davies ar y pwnc.

Dywedodd yr AC Ceidwadol bod angen "diwygio'r system yn sylfaenol" os yw am sicrhau canllawiau tymor hir effeithiol ar gyfer cynllunio a datblygu yng Nghymru.

Mae'n rhaid i bob cyngor yng Nghymru greu cynllun datblygu lleol fel rhan o bolisi a gyflwynwyd gan lywodraeth glymblaid Llafur a Phlaid Cymru.

Yn ôl Mr Davies, dim ond saith o'r 25 cynllun posib sy'n cael eu gweithredu ar hyn o bryd.

Mae'r cynllun yn ddogfen swmpus sy'n amlinellu polisïau defnydd tir pob cyngor a bydd pwyllgorau cynllunio yn cyfeirio ato wrth asesu ceisiadau cynllunio newydd.

Dywedodd y gweinidog John Griffiths ei fod yn croesawu'r drafodaeth, gan ychwanegu bod y llywodraeth am weld "cynlluniau datblygu lleol yn eu lle gynted â phosib".

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific