Page last updated at 16:34 GMT, Wednesday, 21 November 2012

Dadl y Ceidwadwyr

Nid yw'r gwasanaeth iechyd mor barod ac y dylai fod ar gyfer gaeaf caled, yn ôl llefarydd iechyd y Ceidwadwyr ar 21 Tachwedd 2012.

Rhybuddiodd Darren Millar AC bod y ffigyrau isel o bobl sydd wedi derbyn y brechiad ffliw, y cam ddefnyddio o unedau brys a'r cyfyngiadau ariannol i gyd yn cyfrannu at y "argyfwng".

Mynegodd byrder ei bod hi'n annhebygol y bydd y gwasanaeth ambiwlans yn cyrraedd ei tharged o ymateb i 65% o alwadau o fewn wyth munud dros y gaeaf os yw hi'n methu a gwneud hynny pan fo'r tywydd yn fwynach.

Galwodd Peter Black AC i'r Democratiaid Rhyddfrydol ar i'r llywodraeth weithio'n agosach â'r gwasanaeth ambiwlans er mwyn ceisio cyrraedd targedau yn y dyfodol.

Bu Rhodri Glyn Thomas AC yn dadlau fod angen gwell cydweithrediad rhwng awdurdodau lleol a gwasanaethau argyfwng wrth siarad ar ran Plaid Cymru.

Awgrymodd y dylid cytuno ar gynllun i alluogi pobl ar ffyrdd mwy diarffordd i symud o'u tai a chael gafael ar wasanaethau angenrheidiol pan fo'r tywydd ar ei waethaf.

Tra'n ymateb i'r ddadl, esboniodd y Gweinidog Cymunedau Carl Sargeant ei fod wedi cadeirio fforwm o gynrychiolwyr o awdurdodau lleol a gwasanaethau argyfwng a'i fod yn sicr fod y mesurau mewn lle yn ddigon i ddygymod â gaeaf caled.

Ychwanegodd serch hynny ei fod "yn gobeithio na fydd hi'n aeaf caled fel na bod rhaid rhoi'r cynllun ar waith".

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific