Page last updated at 15:32 GMT, Wednesday, 21 November 2012

Cwestiynau Tai, Adfywio a Threftadaeth

Bu'r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn pwysleisio pwysigrwydd adeiladau crefyddol i'n treftadaeth ar 21 Tachwedd 2012.

Dywedodd Huw Lewis AC bod 3,153 o adeiladau rhestredig yn Nghymru sy'n adeiladau crefyddol a bod "y mwyafrif llethol yn gapeli ac eglwysi".

Mae 214 o adeiladau crefyddol rhestredig gradd I, 525 yn rhestredig gradd II* a 2,414 yn rhestredig gradd II.

Gofynnodd AC Dwyrain Abertawe Mike Hedges i'r gweinidog ystyried creu grwp gorchwyl i ddewis adeiladau pwysicaf i'w gwarchod.

"Fel nifer ohonom ni, rydw i'n credu bod y capeli yma yn fwy pwysig i Gymru na chestyll concwerwyr Normanaidd," meddai Mr Hedges.

"Mae ganddom ni gymaint o adeiladau wedi eu rhestru, allwn ni ddim â'u hachub i gyd."

Roedd Mr Lewis yng anghytuno.

"Dydw i ddim yn rhannu'ch barn mai dim ond rhai y gallwn ni eu hachub," meddai.

"Gan fod llai a llai o'r adeiladau rhestredig yma yn cael eu defnyddio, mae'n bwysig ein bod ni'n edrych yn fanwl ar sefyllfa adeiladau crefyddol."

Ei obaith yw ennill cefnogaeth i addasu'r adeiladau crefyddol rhestredig gwag hynny sy'n gyffredin trwy Gymru yn gartrefi.

Mynegodd AC Gorllewin Clwyd bryderon am adeiladau o bwys hanesyddol sydd heb eu rhestru.

Roedd Darren Millar AC yn cyfeirio'n benodol at gapel Pisgah yn Llwchwr, Abertawe, lle dechreuodd y diwygiwr Evan Roberts bregethu.

"Mae'n adeilad pwysig yn genedlaethol sydd heb ei restru na chwaith yn cael ei warchod yn swyddogol."

Dywedodd Mr Lewis ei fod yn ystyried cynnwys rhestr leol ym mesur treftadaeth y llywodraeth "i gynnwys adeiladau o bwys lleol".

Fe fu Mr Lewis hefyd yn ateb cwestiynau ar bynciau eraill gan gynnwys gwaddol y gemau Olympaidd, y cyflenwad o dai a chyllido ewropeaidd.

Wedi'r sesiwn, cyhoeddwyd mai AC Gogledd Cymru y Ceidwadwyr Mark Isherwood sydd wedi ennill y cyfle nesaf i gyflwyno mesur aelod preifat.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific