Page last updated at 14:30 GMT, Wednesday, 21 November 2012

Cwestiynau amgylchedd

Rhybuddiodd y Gweinidog Amgylchedd a Chynaliadwyedd John Griffiths fod clymog Japan yn "broblem gynyddol" ar 21 Tachwedd 2012.

De Cymru sydd wedi eu heffeithio fwyaf gan y chwyn, ac Abertawe yn arbennig, ond mae yn lledu dywedodd wrth ACau.

Mynegodd AC y Democratiaid Rhyddfrydol Peter Black bryder yr awdurdodau lleol fod y chwyn ar dir preifat.

Gall y chwyn achosi niwed i seilwaith goncrit, adeiladau, muriau ac amddiffynfeydd llifogydd.

Fe wnaeth yr AC Llafur Mike Hedges ac AC Plaid Cymru Jocelyn Davies ill dau fynegi pryder fod pobl sy'n ceisio gwerthu eu tai yn cael trafferth gwneud hynny pan fo'r chwyn yn bresennol.

Tra'i fod yn cyfaddef ei fod yn "broblem anodd" fe wnaeth y gweinidog roi ei air i'r ACau fod prosiectau penodol yn mynd i'r afael â'r mater.

"Un ateb posib yw cyflwyno pryfyn sy'n gallu cynnig ffordd o leihau neu hyd yn oed waredu clymog Japan," esboniodd Mr Griffiths.

Fe wnaeth ef hefyd ateb cwestiynau ar bynciau amrywiol gan gynnwys asesiadau risg llifogydd, prisiau ynni a chorff adnoddau naturiol newydd Cymru.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific