Page last updated at 12:58 GMT, Wednesday, 21 November 2012

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Byddai trin gordewdra yn gymorth mawr i leihau'r nifer cynyddol o bobl sy'n cael deiagnosis o fath dau o ddiabetes, yn ôl arbenigwyr oedd yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 21 Tachwedd 2012.

Mae'r pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i'r gwaith o weithredu'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a'i gyfeiriad yn y dyfodol.

Dywedodd Dr Hugo Van Woerden o Iechyd Cyhoeddus Cymru bod angen cadw'r cyd-bwysedd rhwng rhoi dewisiadau i bobl tra'n creu strwythur i hybu dewis bywyd iach.

Dywedodd mai'r cynydd yn y cyfartaledd pwysau cenedlaethol yw "prif gatalydd" math dau o ddiabetes, ond y byddai angen ymgyrch tymor hir i newid agwedd pobl at fyw'n iach.

Bu Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Dr Sharon Hopkins hefyd yn rhoi tystiolaeth gydag aelodau blaenllaw o Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

Dywedodd hi y byddai anawsterau "oni bai ein bod ni'n datblygu cynllun Cymru gyfan sy'n ennyn cefnogaeth ein cymunedau.

"Mae'n hawdd iawn gwneud y pethau sydd o'ch blaen chi ond mae'n hawdd iawn anwybyddu'r pethau sydd yn mynd i gymeryd mwy o amser i achosi niwed," ychwanegodd.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

Aelodau'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific