Page last updated at 12:28 GMT, Monday, 19 November 2012

Dadl ar adroddiad y comisiynydd plant

Cafodd adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ei groesawu gan aelodau o bob plaid ar 20 Tachwedd 2012.

Fe wnaeth y Dirprwy Weinidog Plant Gwenda Thomas longyfarch Keith Towler am ei lwyddiannau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.

Yn ôl yr adroddiad, y digwyddiadau allweddol ym mlwyddyn y swyddfa oedd lansio adroddiad y flwyddyn flaenorol, rhyddhau'r adroddiad 'Ar Goll ar ôl Gofal' ar faterion sy'n effeithio ar blant sy'n derbyn neu wedi gadael gofal ac araith y comisiynydd yn narlith flynyddol Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.

Mynegodd Ms Thomas ei balchder taw llywodraeth Cymru yw'r cyntaf yn y byd i ddeddfu ar gyfleodd chwarae plant wrth iddi bwysleisio pwysigrwydd cael lle diogel i blant gael chwarae.

Wrth gyfrannu at y ddadl, galwodd Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood am adolygiad i ddeddfwriaeth ar chwythwyr chwiban er mwyn diogelu bywydau a bywoliaeth y rheini sydd â gwybodaeth i'w rannu.

Fe wnaeth y sylw wrth gyfeirio at yr honiadau o gam-drin plant yng ngogledd Cymru ac yn achos Jimmy Saville.

Galwodd AC Gogledd Cymru Aled Roberts ar lywodraeth Cymru i adolygu trefniadau llywodraethu Comisiynydd Plant Cymru wrth iddo alw am wneud y comisiynydd yn atebol i'r cynulliad yn hytrach nag i'r prif weinidog yn unig.

Roedd yr AC Ceidwadol Mohammad Asghar yn cydnabod y pryderon a fynegwyd wrth y comisiynydd nad yw rhai pobl ifanc yng Nghymru yn gallu cael gafael ar wasanaethau ieuenctid o ansawdd da wrth iddo alw am fwy o werthfawrogiad o wasanaethau ieuenctid.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific