Page last updated at 16:07 GMT, Tuesday, 20 November 2012

Datganiad gan y gweinidog addysg

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews y bydd yn cynnal adolygiad o wasanaethau addysg yng Nghymru ar 20 Tachwedd 2012.

Bydd yr adolygiad, a oedd wedi ei drefnu yn wreiddiol ar gyfer 2013, yn edrych ar beth ddylai gael ei ymgymryd ar lefel ysgol, awdurdod lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

"Rwyf wedi rhoi amser ac arian i awdurdodau lleol gael eu tŷ mewn trefn ac mae'r dystiolaeth yn glir nad yw hyn wedi digwydd," esboniodd Mr Andrews.

"Dydw i bellach ddim yn barod i aros tan 2013."

Er ei fod yn croesawu'r adolygiad, fe gododd llefarydd addysg y Democratiaid gwestiwn ynghylch amseriad yr adolygiad gan rybuddio na ddylid brysio i'w gynnal.

Pwysleisiodd Aled Roberts bod yn rhaid edrych ar y pryderon yn ofalus.

Bu'r AC Ceidwadol Angela Burns yn hynod feirniadol o'r penderfyniad gan ddisgrifio datganiad y gweinidog fel un "rhyfeddol a syfrdanol".

"Galla i ddim mynegi fy nicter," dywedodd am y penderfyniad i dynnu pŵer oddi wrth yr awdurdodau lleol.

"Ydyn ni o ddifri'n credu taw canoli gwasanaethau yw'r peth gorau i'w wneud?"

Wrth siarad ar ran Plaid Cymru, holodd Simon Thomas AC a fyddai angen deddfu gan fod y bil safonau yn pwysleisio'r angen i weithredu ar lefel leol, sy'n gwrthddweud yr hyn a ddwedodd y gweinidog yn ei ddatganiad i'r siambr.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific