Page last updated at 15:43 GMT, Tuesday, 20 November 2012

Datganiad busnes

Dywedodd Arweinydd y Tŷ Jane Hutt na fyddai'r gweinidog busnes yn gwneud datganiad ar Vion mewn "cyfnod hynod sensitif yn fasnachol" i'r cwmni, wedi iddi ddod i'r amlwg bod y cwmni'n bwriadu gwerthu ei lladd-dai yng Nghymru.

Roedd aelodau nifer o bleidiau yn siomedig na chawson nhw'r cyfle i ofyn cwestiwn brys ar y mater ar 20 Tachwedd 2012.

Yng Nghymru, mae dyfodol ansicr i dros 3300 o weithwyr y cwmni bwyd o'r Iseldiroedd yn dilyn cyhoeddi'r newyddion o'i bwriad i werthu ei safleoedd yma.

Mae gan Vion ladd-dai a ffatrioedd ym Merthyr Tydfil, Sir Fflint, Ynys Môn a Wrecsam.

"A wnewch chi roi amser am ddatganiad brys ar Vion?" holodd AC Brycheiniog a Maesyfed Kirsty Williams.

"Nid dim ond nifer fawr o swyddi sydd mewn perygl, mae hyn o bryder mawr i'r diwydiant cig coch a'r gallu i brosesu cig coch a gwyn yng Nghymru.

"Rwy'n sylwi bod llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi ymateb hirfaith am sut y byddan nhw'n delio â'r mater.

"Rwy'n siwr y byddai pobl fy etholaeth i'n gwerthfawrogi ymateb tebyg gan lywodraeth Cymru."

Mynegodd AC Canol De Cymru Andrew RT Davies a'i gyd Geidwadwr yng Ngogledd Cymru Antoinette Sandbach eu pryderon am ddiffyg ymateb llywodraeth Cymru.

Dywedodd y gweinidog nad oedd sicrwydd eto y byddai unrhyw swyddi'n cael eu colli.

"Dydy hyn ddim am gau ffatrioedd, mae am werthu'r safleoedd.

"Mae'n amser hynod sensitif yn fasnachol i'r cwmni fel y bydd aelodau'n sylweddoli.

"Mae'r gweinidog yn amlwg yn ymwneud â'r mater trwy ei swyddogion ar hyn o bryd."

Dywedodd y gallai sicrhau aelodau bod y llywodraeth yn gwneud popeth allan nhw i "sicrhau'r canlyniad gorau i bob safle yng Nghymru".

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific