Page last updated at 15:12 GMT, Tuesday, 20 November 2012

Cwestiynau i'r prif weinidog

Galwodd y Prif Weinidog Carwyn Jones am "ffenest ddeddfwriaethol" yn San Steffan i weithredu argymhellion y Comsiwn Silk yn llawn cyn yr etholiad cyffredinol nesaf wrth ateb cwestiynau gan ACau ar 20 Tachwedd 2012.

Cafodd Comisiwn Silk ei sefydlu gan lywodraeth y DU i adolygu'r trefniadau ariannol a chyfansoddiadol presennol yng Nghymru.

Cafodd rhan un o ganfyddiadau'r comisiwn eu cyhoeddi ar 19 Tachwedd 2012, gan argymell rhoi pwerau i amrywio trethi i'r cynulliad erbyn 2020.

Wrth ymateb i gwestiynau gan Arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies, dywedodd y prif weinidog: "Rydym ni'n cefnogi rhan un o Silk, rydym ni'n hapus i'w weld yn cael eu weithredu, ac yn edrych mlaen at weld (y Ceidwadwyr yn San Steffan) yn gweithredu Silk cyn diwedd y tymor hwn."

Dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams i bedair plaid y cynulliad gydweithio i sichrau sefydlu Comisiwn Silk.

Roedd am i'r prif weinidog ei sicrhau ei fod wedi trafod gweithredu Silk gyda'i blaid ei hun yn San Steffan yn ogystal â llywodraeth y DU, i sicrhau y byddai'r argymhellion yn cael eu gweithredu doed a ddelo.

Dywedodd Mr Jones mai ei flaenoriaeth oedd sicrhau bod argymhellion Comisiwn Silk yn cael eu gweithredu'n llwyr, gan gynnwys newid y fformiwla sy'n pennu cyllideb Cymru.

Fe groesawodd Mr Jones gefnogaeth Ms Williams i newid y fformiwla honno, fformiwla Barnett.

"Rydw i wedi bod yn trafod y mater â gweinidogion Llafur," meddai.

"Rydw i hefyd wedi trafod y pwnc â'r ysgrifenydd gwladol."

Bu Mr Jones hefyd yn ateb cwestiynau am dlodi plant, diogelwch ar y ffyrdd a pherfformiad y gwasanaeth ambiwlans yng ngorllewin de Cymru.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific