Page last updated at 16:19 GMT, Wednesday, 14 November 2012

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Bydd toriadau gwariant yn gwneud cyrraedd safonau ar ansawdd tai yn anos yn ôl y gweinidog tai.

Roedd Huw Lewis AC yn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) ar 14 Tachwedd 2012.

Cafodd y targed deng mlynedd ei gyflwyno gan lywodraeth Cymru yn 2002 er mwyn gwella safon ansawdd tai cymdeithasol.

Mae'r SATC yn gosod safon isaf i dai, gyda nifer o hanfodion sy'n fwy heriol na chynlluniau tebyg mewn rhannau eraill o'r DU.

"Mae'r safon wastad wedi bod yn uchelgeisiol, ac mae'n mynd i fod yn fwy uchelgeisiol nawr oherwydd toriadau gwariant llywodraeth y DU," meddai Mr Lewis.

Mynegodd cadeirydd y pwyllgor, Aled Roberts AC bryderon na fydd llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei tharged ei hun erbyn 2012.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn rhybuddio na fydd 79% o'r tai yn cyrraedd y safon erbyn 2017.

Gwna'r adroddiad 11 o argymhellion ac mae llywodraeth Cymru wedi eu derbyn i gyd, naill ai yn rhannol neu yn llawn.

Mae'n argymell bod y llywodraeth yn cynhyrchu canllawiau i landlordiaid ar sut i sicrhau'r buddion mwyaf posibl wrth adnewyddu tai i gyrraedd SATC.

Mae hefyd yn argymell bod llywodraeth Cymru yn datblygu canllawiau i sicrhau bod y data a gesglir gan landlordiaid yn amlygu'r rhesymau am ddosbarthiadau lle mae methiant yn dderbyniol.

Dywedodd y gweinidog bod yr argymhellion yn "synhwyrol" ac y byddai'n "fwy na pharod" i'w gweithredu.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific