Page last updated at 14:05 GMT, Thursday, 15 November 2012

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Yn ôl cynrychiolwyr o Diabetes UK Cymru, Coleg Brenhinol y Ffisigwyr, Cymdeithas Feddygol Prydain, Cymdeithas Diabetolegwyr Clinigol Prydain, Cymdeithas Fferyllol Frenhinol ac Alliance Boots mae diabetes yn glefyd epidemig.

Maen nhw hefyd yn pwysleisio'r angen am fwy o ymwybyddiaeth o'r cyflwr.

Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnal ymchwiliad i'r gwaith o weithredu'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a'i gyfeiriad yn y dyfodol, gyda'r sesiwn gyntaf ar 15 Tachwedd 2012.

Dywedodd Dai Williams o Diabetes UK Cymru bod 66,000 o bobl yng Nghymru â diabetes ond heb gael deiagnosis.

Yn ôl yr elusen, mae gan 160,000 o bobl Cymru ddiabetes, 10% â math 1 o'r cyflwr, a'r gweddill â math 2.

"Mae'n gyflwr peryglus, dydyn ni ddim yn gwneud hynny'n glir i bobl," meddai.

"Mae nifer fawr o bobl allan yna gyda math 1 o ddiabetes, sy'n chwistrellu eu hunain chwe gwaith y diwrnod heb arweiniad ar sut i wneud hynny'n iawn."

Cyfeiriodd at y diweddar chwaraewr rygbi a'r darlledwr Ray Gravell, gollodd ei goes oherwydd diabetes am nad oedd wedi sylweddoli peryglon ei gyflwr.

Dywedodd Mr Williams ei fod yn gefnogol iawn o'r syniadau y tu ôl i'r fframwaith ond nad ydyn nhw'n cael eu gweithredu.

Dywedodd ei gydweithiwr Jason Harding nad oes neb yn arwain y fframwaith yng Nghymru a bod cleifion yn dioddef oherwydd hynny.

Clywodd y pwyllgor dystiolaeth hefyd gan Dr Meurig Williams, ar ran Coleg Brenhinol y Ffisigwyr a Dr Aled Roberts ar ran Cymdeithas Diabetolegwyr Clinigol Prydain.

Dywedodd Dr Williams bod y fframwaith wedi bod yn llwyddiant ar un ystyr, ond bod gweithwyr iechyd yn y maes dan bwysau mawr.

"Un o'r prif fanteision yw cau'r bwlch rhwng safon gofal," meddai'r ymgynghorydd diabetes.

"Ond mae'r fframwaith wedi dyddio, mae'n ddeng mlwydd oed, mae diabetes wedi symud gyda'r oes.

"Mae triniaethau wedi newid mewn ffordd fawr yn y deng mlynedd diwethaf.

"Doedd tua hanner y cyffuriau'r ydym ni'n defnyddio nawr ddim wedi eu datblygu ddegawd yn ôl.

"Mae yna her anferth o ran ceisio darparu gofal o safon."

Dywedodd hefyd bod anawsterau wrth sgrinio am ddiabetes, er bod y dystiolaeth yn dangos y gallai archwiliad iechyd nid yn unig arwain at ddeiagnosis o'r cyflwr mewn nifer o bobol, ond hefyd ddangos pwy fyddai'n debygol o ddatblygu'r cyflwr maes o law.

"Dydym ni ddim yn edrych ar hynny."

Daeth Dr Ian Millington a Dr Mark Temple i roi tystiolaeth ar ran Gymdeithas Feddygol Prydain.

Fe gadarnhaon nhw hefyd bod cynnydd aruthrol yn nifer y bobol sydd â diabetes yng Nghymru.

Yn ôl Dr Temple, does dim adnoddau ar gael i ymdrin â'r broblem gan fod y gyllideb yn crebachu, a hynny er bod mwy o broblem yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Gyfunol.

Galwodd am ailystyried polisi cynllunio i leihau'r nifer o lefydd sy'n gwerthu byr-brydau a bwydydd heb faeth ar y stryd fawr.

"Ry'ch chi'n annog pobl i fwyta'u ffordd ar hyd y stryd fawr," meddai, gan gyfeirio at wleidyddion.

"Rhaid i ni annog pobl i fynd nôl i gael y bwyd o'r tir, ei baratoi a'i fwyta.

"Mae'n eithaf sylfaenol."

Yn eu tystiolaeth nhw, dywedodd Mair Davies a Paul Gimson o'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol eu bod yn credu bod cyfleon wedi eu colli i gynnwys gwaith fferyllwyr cymuned mewn gofal cynradd yng nghyd-destun diabetes.

Galwodd Russell Goodway a Marc Donovan o Fferylliaeth Gymunedol Cymru am drefniant sy'n caniatau i fferyllfeydd lleol i roi cefnogaeth i gleifion mewn pedwar maes: i atal diabetes, i gael deiagnosis cynnar, i gynnig cefnogaeth wedi diagnosis ac i roi cefnogaeth tymor hir.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

Aelodau'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific