Page last updated at 18:29 GMT, Wednesday, 14 November 2012

Dadl fer: Plant sy'n derbyn gofal

Rhybuddiodd AC Gorllewin Caerdydd Mark Drakeford fod yna nifer cynyddol o blant yn cael eu tynnu o'u teuluoedd gan awdurdodau lleol Cymreig ar 14 Tachwedd 2012.

Roedd 4,200 o blant mewn gofal yn 2003 ond mae'r ffigwr wedi codi i 5,725 eleni yn ôl yr AC Llafur.

Yn ystod ei gyfnod yn y siambr galwodd am ymchwilio i ffordd newydd o ddarparu gwasanaethau trwy fondiau effaith gymdeithasol.

Bu'n dadlau y gallai hynny leihau nifer y plant a dderbynnir i ofal awdurdodau lleol yng Nghymru.

Wrth ymateb i'r ddadl dywedodd y Dirprwy Weinidog Plant Gwenda Thomas ei bod yn croesawu'r cyfle "i newid bywydau plant mewn gofal yng Nghymru er gwell".

Lleisiodd ei siom fod "tlodi a dyled yn ofid i nifer o'r teuluoedd" wrth iddi amlinellu ymrwymiad y llywodraeth i gefnogi'r teuluoedd yma.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific