Page last updated at 15:50 GMT, Wednesday, 14 November 2012

Cynnig Cyllideb Comisiwn y Cynulliad

Fe wnaeth yr Aelodau gytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2013-14 ar 14 Tachwedd 2012.

Ar ddechrau'r Pedwerydd Cynulliad, fe gyflwynodd y comisiwn gynlluniau gwariant tair blynedd i gyflawni ei nodau strategol, gyda chefnogaeth y Pwyllgor Cyllid a'r cynulliad cyfan.

Rhybuddiodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid Jocelyn Davies y byddent yn disgwyl gweld y canlyniadau sydd wedi eu haddo wedi i'r comisiwn dderbyn cynnydd o 5.3% yn y gyllideb er mwyn gweithredu'r pwerau deddfu newydd.

Wrth gynrychioli'r comisiwn, fe wnaeth Angela Burns AC roi addewid y byddent yn sicrhau fod yr arbedion presennol yn parhau gan dderbyn eu bod hi'n iawn i'r pwyllgor graffu arnynt.

Yn ôl y comisiwn, mae cyllideb 2013-14 yn cyd-fynd yn union â'r lefel a nodwyd ganddynt y llynedd.

Mae cyllideb y comisiwn ar gyfer 2013-14 yn £49.5 miliwn gyda £13.7 miliwn yn mynd tuag at gyflogau aelodau'r cynulliad, eu staff a'r costau ynghlwm â rhedeg eu swyddfeydd etholiadol.

Mae'r £33.8 miliwn sy'n weddill yn cael ei wario ar wasanaethau comisiwn y cynulliad sy'n cefnogi'r cynulliad.

Mae cyflogau aelodau wedi eu rhewi ar y gyfradd bresennol tan 2014-15.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific