Page last updated at 18:21 GMT, Tuesday, 13 November 2012

Dadl ar y gyllideb ddrafft

Cafodd cyllideb ddrafft llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14 ei chymeradwyo ar 13 Tachwedd 2012.

Fe wnaeth aelodau Plaid Cymru ymwrthod rhag pleidleisio gan ganiatáu i'r blaid Lafur basio'r gyllideb o £15biliwn.

Roedd y blaid Lafur eisoes wedi taro bargen â Phlaid Cymru a oedd yn cynnwys £20m ychwanegol i wario ar brentisiaethau ar gyfer pobl ifanc 16-24 mlwydd oed a £10m o gyfalaf ar dros ddwy flynedd ar gyfer parc gwyddoniaeth newydd.

Wrth arwain y ddadl pwysleisiodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt ymrwymiad llywodraeth Cymru i "waredu tlodi" a "lleihau effeithiau negyddol newidiadau llywodraeth y DU i ddiwygio lles".

Fe amlinellodd hefyd rhoi hwb i'r economi a gwella gwasanaethau cyhoeddus ymysg ei blaenoriaethau.

Bu AC Arfon Alun Ffred Jones yn dadlau fod yn rhaid i Gymru ddarganfod ffyrdd gwell o godi arian ar gyfer prosiectau cyfalaf fel bo busnesau yn medru cyflogi staff a datblygu sgiliau pobl ifanc.

Croesawodd hefyd y buddsoddiad ychwanegol i gynlluniau prentisiaid a oedd yn credu byddai'n rhoi hwb angenrheidiol i'r economi.

Wrth siarad ar ran y Ceidwadwyr, fe wnaeth yr AC Paul Davies feirniadu'r gyllideb am roi'r "cytundeb gwaethaf yn y DU" i Gymru ac am "fethu a wynebu gofynion y gwasanaeth iechyd".

Lleisiodd y Democrat Rhyddfrydol Peter Black AM ei siom fod y bwlch mewn gwariant ar addysg rhwng Cymru a Lloegr yn gwaethygu oherwydd na lwyddwyd i gynyddu'n sylweddol y Grant Amddifadedd Disgyblion yn 2013/14.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific