Page last updated at 15:22 GMT, Tuesday, 13 November 2012

Datganiad busnes

Fe wnaeth arweinydd y Ceidwadwyr feirniadu'r prif weinidog ar 13 Tachwedd 2012 am fethu a rhyddhau datganiad ar ôl ei gyfarfod â'r comisiynydd plant.

Roedd Carwyn Jones AC wedi addo mewn sesiwn lawn flaenorol y byddai'n diweddaru'r ACau wedi ei gyfarfod yn trafod yr honiadau o gam-drin plant yng ngogledd Cymru.

Yn ôl Andrew RT Davies mae'n "resynus" fod y prif weinidog wedi methu â chyflawni ei addewid.

Fe bwysleisiodd Arweinydd y Tŷ Jane Hutt fod angen i'r prif weinidog a'r comisiynydd ill dau "ymateb yn addas ac yn gyfrifol" a'i bod hi'n holl bwysig i'r aelodau ddeall hynny.

Bu Ms Hutt hefyd yn ateb ceisiadau am ddadleuon a datganiadau ar waredu gwastraff yn anghyfreithlon, apwyntiadau cyhoeddus pwysig a gwaith y cyngor chwaraeon.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific