Page last updated at 14:56 GMT, Tuesday, 13 November 2012

Cwestiynau i'r prif weinidog

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones fod y sylw diweddar yn y wasg i'r honiadau o gam-drin plant yng ngogledd Cymru yn "ymylu ar hysteria" ar 13 Tachwedd 2012.

Rhybuddiodd hefyd y bydd "digwyddiadau'r wythnos ddiwethaf yn annog pobl i beidio â chynnig gwybodaeth ynghylch Bryn Estyn a chartrefi eraill hefyd" ac y byddai hynny yn ei dro yn ei gwneud hi'n anos i gyrraedd y gwirionedd.

Fe gododd arweinydd Plaid Cymru AC Leanne Wood gwestiwn ynghylch y nifer o adroddiadau i'r cam-drin rhywiol gan rybuddio y gallai cynifer o wahanol ymchwiliadau ei gwneud hi'n haws i bobl guddio'r gwirionedd.

Galwodd hefyd ar y prif weinidog i sicrhau fod swyddfa'r comisiynydd plant yn cael ei hariannu'n ddigonol er mwyn sicrhau na fydd mwy o blant bregus yn cael eu hesgeuluso.

Fe wnaeth Andrew RT Davies AC a Kirsty Williams AC ill dau godi cwestiynau am yr adroddiad y Fforwm Clinigol Cenedlaethol i newidiadau i'r gwasanaeth iechyd.

Mae BBC Cymru wedi darganfod fod yr adroddiad annibynnol, a oedd yn beirniadu'r newidiadau i'r gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru, wedi cael ei ail-ysgrifennu, a hynny ar ôl ei gyflwyno.

Mae'r methiant wedi effeithio ar hyder pobl mewn adroddiadau annibynnol, yn ôl Mr RT Davies.

Pwysleisiodd Mr Jones nad oedd gan weinidogion unrhyw fewnbwn i'r newidiadau yn yr adroddiad ac nad oedd ymyrraeth "o unrhyw fath" gan lywodraeth Cymru.

Fe wnaeth y prif weinidog hefyd ateb cwestiynau ar bwerau benthyg, asbestos mewn ysgolion a chyllideb yr Undeb Ewropeaidd.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific