Page last updated at 18:09 GMT, Tuesday, 27 November 2012

Dadl fer: Asbestos mewn ysgolion

Bydd y fideo ar gyfer yr eitem hon yn ymddangos yma.

Fe wnaeth y gweinidog addysg gyfaddef nad yw e'n hapus gyda'r lefelau o reoleiddio asbestos mewn ysgolion ar 27 Tachwedd 2012.

"Dwi ddim yn hollol hyderus ar hyn o bryd fod awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau ystudol wrth reoli asbestos a does 'na ddim cynlluniau pwrpasol yn eu lle," dywedodd Leighton Andrews AC.

Galwodd y gweinidog ar i'r holl awdurdodau lleol cyflwyno eu rhaglenni rheoli asbestos wedi i

yng Nghaerffili gau ym mis Hydref wedi i lefelau uchel o asbestos gael eu darganfod yno.

Pwysleisiodd serch hynny nad oedd yn galw am dynnu asbestos o bob ysgol.

"Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi mynnu taw'r peth gorau i wneud gydag asbestos sydd mewn cyflwr da ac nad yw'n debygol o gael ei ddifrodi yw i adael llonydd iddo."

Yn ystod ei ddadl fer, galwodd AC Sir Fynwy Nick Ramsay ar lywodraeth Cymru i ddatgelu'r wybodaeth am lefelau asbestos mewn ysgolion yn hytrach nag atal hawl rhieni i gael y ffeithiau.

Mae'r pryder cynyddol am lefelau o asbestos mewn ysgolion wedi arwain at alw am brofion rheolaidd i fesur ffibrau yn yr awyr mewn ysgolion

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific