Page last updated at 18:09 GMT, Wednesday, 7 November 2012

Dadl Plaid Cymru

Gwaith yr awdurdodau addysg lleol yw sefydlu consortia addysg rhanbarthol, nid ei waith ef yn ôl y gweinidog addysg.

Roedd Leighton Andrews AC yn ymateb i ddadl Plaid Cymru ar addysg ar 7 Tachwedd 2012.

Dywedodd Llefarydd Addysg Plaid Cymru mai eu cyfrifoldeb nhw oedd dwyn y gweinidog i gyfrif ynglyn â'i addewidion.

Mewn adroddiad ar strwythur addysg yng Nghymru y llynedd, argymhellwyd mai creu consortia addysg rhanbarthol oedd y ffordd fwyaf synhwyrol o drefnu adnoddau, yn hytrach na chaniatau i'r 22 awdurdod lleol fynd ar eu trywydd eu hun.

Dywedodd y gweinidog y byddai'r consortia'n weithredol erbyn Medi 2012.

Galwodd aelodau o'r holl wrthbleidiau am sefydlu'r consortia ar fyrder.

Roedd Mr Andrews yn bendant mai mater i'r awdurdodau lleol oedd eu cyflwyno.

Dywedodd bod angen i'r aelodau benderfynu a oedden nhw eisiau rheolaeth "ganolog" o addysg neu ganiatau i'r awdurdodau lleol wneud y gwaith trwy'r consortia rhanbarthol.

Byddai hynny'n golygu datblygiad "anwastad" ar draws Cymru meddai.

"Dyna'r dewis sy'n eich wynebu chi.

"Nid yw sefydlu'r consortia rhanbarthol yn dileu dyletswyddau'r awdurdodau lleol."

Lleisiodd y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwyr eu gwrthwynebiad i'r system o fandio ysgolion.

Galwodd Llefarydd Addysg y Democratiaid Rhyddfrydol Aled Roberts am eglurhad beth oedd yn cael ei wneud i wella sefyllfa ysgolion yn y bandiau isel.

Ymatebodd y gweinidog gan ddweud bod llwyddiant yr ysgolion hynny yn "allweddol" i lwyddiant y system.

Ychwanegodd: "Os nad yw'r system yn gweithio, yna gall fod modelau eraill i ni eu hystyried i sicrhau'r gefnogaeth orau i'n hysgolion".

Cafodd y cynnig wedi ei ddiwygio ei gymeradwyo.


Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific