Page last updated at 17:15 GMT, Wednesday, 7 November 2012

Dadl Ceidwadwyr

Fe wnaeth yr AC Ceidwadol Mark Isherwood alw am gartref gofal i gyn-filwyr Cymreig ar 7 Tachwedd 2012.

Wrth arwain dadl ei blaid fe leisiodd Mr Isherwood bryder am ofal presennol y gwasanaeth iechyd i gyn-filwyr sy'n dioddef o anhwylder straen wedi trawma (PTSD) yng Nghymru.

"Os nad oedd y driniaeth mor gymhleth, ni fyddai cymaint o gyn-filwyr yn lladd eu hunain a nifer uchel yn y carchardai ac yn byw ar y strydoedd," esboniodd.

Nododd yr AC Gogledd Cymru gamddefnydd o alcohol a chyffuriau fel rhai o'r cysuron i bobl yn dioddef o PTSD yn absenoldeb gwasanaethau cefnogaeth pwrpasol.

Pwysleisiodd AC Plaid Cymru Elin Jones bwysigrwydd rhannu gwybodaeth rhwng y lluoedd arfog a'r gwasanaeth iechyd pan fo milwyr yn cael eu rhyddhau o'u cyfrifoldebau.

Dylai anghenion heddlu, diffoddwyr tân ac aelodau o'r gwasanaeth ambiwlans sy'n dioddef o PTSD gael eu hystyried hefyd yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams.

Wrth ymateb i'r ddadl, nododd y gweinidog llywodraeth leol a chymunedau ei fod "yn falch iawn o waith y llywodraeth yn cefnogi PTSD".

Fe wnaeth Carl Sargeant AC gyfaddef serch hynny fod angen gwneud mwy wrth gynnig gwasanaethau trwy'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymru Gyfan gan fod galw cynyddol amdanynt.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific