Page last updated at 12:06 GMT, Wednesday, 7 November 2012

Pwyllgor Cyllid

Bydd y fideo ar gyfer yr eitem hon yn ymddangos yma.

Mae'r gweinidog cyllid wedi cyfaddef ei bod hi'n ystyried rhoi arian Buddsoddi i Arbed i brosiect na fydd yn medru ad-dalu'r arian ar 7 Tachwedd 2012.

Mae disgwyl i gynlluniau ad-dalu'r arian yn llawn ac mae nodi amserlen ar gyfer dychwelid y benthyciad di-dâl yn rhan o'r broses geisio.

Disgrifiodd Jane Hutt AC yr arbedion posib gan brosiect caffael cenedlaethol yn rhai "sylweddol" ac esboniodd taw dyma pam ei bod nhw'n parhau gyda'r cais.

Er bod disgwyl i'r rhan fwyaf o'r prosiectau ad-dalu'r arian yn llawn o fewn tair blynedd mae llywodraeth Cymru yn "reit hyblyg" yn nhermau'r amseri.

"Ni ddylai'r ad-dalu fod yn niweidiol i'r prosiect," pwysleisiodd Ms Hutt.

Blaenoriaeth arall i'r cynllun yw sicrhau fod prosiectau yn rhannu arferion da ar draws y sector gyhoeddus.

"Mae nifer o'r prosiectau blaengar eisoes wedi cyflwyno asesiadau achos ac rwyf wedi eu cyhoeddi mewn adroddiadau Buddsoddi i Arbed," dywedodd Ms Hutt.

"Dwi'n credu fod "datblygiad sylweddol" wedi bod wrth rannu gwers," ychwanegodd.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific