Page last updated at 16:02 GMT, Tuesday, 6 November 2012

Datganiad gan y Gweinidog Busnes a Menter

Roedd croeso cyffrediol i ddatganiad y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth Edwina Hart ar adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ardaloedd Tŵf Lleol Powys wnaed ar 6 Tachwedd 2012.

Ystyriodd y grŵp faterion penodol a oedd yn effeithio ar drefi marchnad allweddol Aberhonddu, Llandrindod a'r Drenewydd a'r gwasanaethau maent yn eu darparu.

Dywedodd Mrs Hart bod y llywodraeth wedi "gwneud cynnydd" wrth weithredu'r argymhellion, a'i bod hi wedi treulio'r haf yn trafod cynnwys yr adroddiad gyda aelodau o fyd busnes y sir.

Daeth croeso gan gynrychiolwyr y pleidiau i'r adroddiad, ond roedd Elin Jones, AC Ceredigion yn anfodlon â chais y gweinidog i gwmni BT ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau band eang yn ardal tŵf lleol Powys ar draul ardaloedd gwledig eraill.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific