Page last updated at 14:56 GMT, Tuesday, 6 November 2012

Cwestiynau i'r prif weinidog

Bydd rhaid i'r ddwy lywodraeth gyd-weithio wrth asesu'r honiadau am gam-drin mewn cartrefi plant yng ngogledd Cymru, dywedodd y prif weinidog wrth ACau ar 6 Tachwedd 2012.

Pwyleisiodd fod angen i'r broses ymchwilio ennyn hyder cyhoeddus.

Er bod rhai materion wedi eu datganoli ac eraill o dan ofal llywodraeth y DU, rhybuddiodd Carwyn Jones AC na fyddai o fudd i'r dioddefwyr i gael gormod o ymchwiliadau.

Mae'r Comisiynydd Plant Keith Towler wedi galw am ymchwiliad pellach i'r cam-drin yn y 70au a'r 80au gan fod pryderon nad oedd cylch gorchwyl yr ymchwiliad gwreiddiol yn ddigon eang.

Mae'r Ysgrifennydd Cartref Theresa May wedi cadarnhau fod llywodraeth y DU am gynnal ymgynghoriad ar y mater.

Cytunodd Mr Jones gydag arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood fod angen i'r broses ymchwilio fod mor dryloyw â phosib.

Fe wnaeth addewid hefyd i ail-edrych ar argymhellion yr adroddiad Waterhouse gwreiddiol i weld os oedd angen mwy o waith ar rai ohonynt.

Roedd apwyntiad y comisiynydd plant yn un o'r argymhellion ac esboniodd y prif weinidog y byddai'n cwrdd ag ef yn ddiweddarach y diwrnod hynny ac y byddai datganiad yn dilyn.

Fe wnaeth AC Gogledd Cymru Aled Roberts gyflwyno cwestiwn brys ar y mater ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific