Page last updated at 11:03 GMT, Wednesday, 24 October 2012 12:03 UK

Pwyllgor Cyllid

Rhybuddiodd Cadeirydd y Pwyllgor Jocelyn Davies ar 25 Hydref 2012 fod Byrddau Iechyd Lleol yn gwario'r holl arian sydd wedi ei neilltuo iddynt gan nad yw nhw eisiau ei golli.

O dan y drefn bresennol, mae unrhyw arian sy'n weddill ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yn cael ei ddychwelyd i gronfa ganolog.

Galwodd AC Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones ar y gweinidog cyllid i roi fwy o hyblygrwydd i fyrddau iechyd yn nhermau eu cyllidebau.

Byddai galluogi iddynt gario unrhyw arian dros ben ymlaen i'r flwyddyn ariannol nesaf yn ysgogiad iddynt ddod o fewn y gyllideb.

Rhybuddiodd AC Ynys Môn nad oes unrhyw anogaeth iddynt i beidio gwario'r arian gan ei bod nhw'n gwybod eu bod yn gallu gofyn am fwy bob blwyddyn.

Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf, roedd gan chwe bwrdd iechyd ddyled ar y cyd o £230m.

Esboniodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt fod swyddogion y gweinidog iechyd yn cynnal adolygiad ar hyn o bryd o drefn ariannu'r gwasanaeth iechyd gan edrych ar y gellid cyflwyno hyblygrwydd ariannol.

Gwrthododd serch hynny a gwneud unrhyw sylw ar y mater tan fydd canlyniadau'r adolygiad yn wybyddus.

Roedd y gweinidog ger bron y Pwyllgor Cyllid yn ateb cwestiynau ar gyllideb ddrafft y llywodraeth.

Darllenwch hwn yn Saesneg.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific