Page last updated at 10:02 GMT, Tuesday, 23 October 2012 11:02 UK

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Fe wnaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus gwrdd i drafod cyllideb Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaw i ben ar 31 Mawrth 2014.

Roedd yr Archwilydd Cyffredinol Cymru Huw Vaughan Thomas yn bresennol er mwyn trafod ei amcangyfrif o incwm a gwariant y swyddfa ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Yn ôl tystiolaeth ysgrifenedig Mr Thomas, mae'r swyddfa wedi gofyn am £0.75m yn ychwanegol y flwyddyn hon er mwyn medru rhoi cymorth i sefydliadau cyhoeddus sy'n ceisio arbed arian drwy gynyddu effeithlonrwydd ac ariannu costau'r trefniadau newydd a nodir yn y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru).

Hefyd yn ystod y sesiwn fe wnaeth y pwyllgor drafod proses gaffael y llywodraeth, gan ystyried y camau a gymerwyd ganddi i waredu Gwesty River Lodge, Llangollen.

Fe wnaeth Swyddfa Archwilio Cymru ddarganfod bod penderfyniad y llywodraeth i brynu'r gwesty ddim yn werth da am arian, ac nad oeddent wedi cynnal asesiad risg gadarn.

Yn rhoi tystiolaeth ar ran y llywodraeth oedd Cyfarwyddwr Cyffredinol, Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth James Price a'r Cyfarwyddwr Cyflenwi Jeff Collins.

Aelodau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific