Page last updated at 18:04 GMT, Tuesday, 20 November 2012

Dadl fer: Diwygio lles

Arweiniodd AC Torfaen Lynne Neagle ddadl ar effaith diwygio lles mewn cysylltiad â thai yng Nghymru ar 20 Tachwedd 2012.

Dywedodd y byddai'r newidiadau yn effeithio ar 46% o'r bobl sy'n hawlio budd-dal tai o oedran gwaith yng Nghymru, 40,000 i gyd.

Fe basiwyd y mesur diwygio lles yn San Steffan nôl ym mis Mawrth, ac fe ddywedodd Carl Sargeant y gallai arwain at drafferthion i bobl sy'n dioddef trais yn y cartref.

Wrth ymateb, dywedodd y Gweinidog Tai Huw Lewis bod llywodraeth y DU yn "gwneud bwgan o'r tlawd".

Dywedodd mai bwriad llywodraeth y DU yw gorfodi llywodraeth Cymru a'r awdurdodau lleol i ddatrys y sefyllfa.

Dywedodd y byddai'n "anodd mesur" effaith llawn y newidiadau tan eu bod yn weithredol.

Amddiffynodd AC y Democratiaid Rhyddfrydol Peter Black y glymblaid yn San Steffan a dweud bod y llywodraeth Lafur flaenorol wedi cael "problemau cychwynnol" wrth gyflwyno newidiadau i'r system dai yn 2008.

"Rhaid i bawb gydweithio i leddfu'r problemau cychwynnol yma."

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific