Page last updated at 16:16 GMT, Wednesday, 24 October 2012 17:16 UK

Dadl y Pwyllgor Cyllid

Cafodd adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar bwerau benthyg a buddsoddiadau cyfalaf ei groesawu gan ACau ar 24 Hydref 2012.

Mae'r adroddiad yn neud nifer o argymhellion ar bwerau benthig ac mae'r rhan fwyaf wedi eu derbyn yn rhannol neu yn llawn gan lywodraeth Cymru.

Wrth arwain y ddadl esboniodd Cadeirydd y Pwyllgor Jocelyn Davies AC bod y pwyllgor yn galw am bwerau benthyg i'r cynulliad, heb fod hynny'n effeithio ar grant bloc Cymru, er mwyn defnyddio'r arian ar brosiectau cyfalaf.

Bu'r Ceidwadwr Paul Davies yn dadlau "ei bod hi'n iawn fod Cymru yn cael pwerau benthig a gobeithio y gwelwn ni hynny yng nghanlyniad y Comisiwn Silk".

Mae'r pwyllgor yn gobeithio y bydd Comisiwn Silk yn rhoi sylw i'w gwaith, ac yn argymell y dylai'r comisiwn ystyried a yw datganoli pwerau amrywio trethi yn hanfodol cyn rhoi pwerau benthyca i lywodraeth Cymru, neu a ddylid canolbwyntio ar fenthyca yn fforddiadwy waeth beth fo'r pwerau amrywio treth.

Argymhelliad arall yw i lywodraeth Cymru ystyried gwersi y gellid eu dysgu gan yr Alban ar rôl corff annibynnol i gydlynu'r gwaith o gynllunio rheolaeth asedau a gwneud penderfyniadau ar draws ffiniau aml-asiantaeth.

Croesawodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt yr adroddiad gan ddweud ei fod yn arwyddocaol ei bod yn ei drafod ar y diwrnod y gwnaeth gyhoeddiad ynglyn â diwygio'r drefn cyllido.

Pwysleisiodd o gael pwerau benthyg, y bydd hi'n holl bwysig cael hyblygrwydd er mwyn gallu symud arian rhwng cyllidebau.

SEE ALSO

Story Tools

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.

Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific